Cymraeg
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, o Fedi 2022 bydd Ysgol Penrhyn-coch yn:
Categori 3: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg
- Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol.
- Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen.
- Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi.
- Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.
Fel cymuned ysgol, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) Cyngor Sir Ceredigion, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg wrth graidd taith ddysgu ein disgyblion. Yn unol â gweledigaeth y sir ar gyfer dyfodol dwyieithog, rydym yn gweithio’n rhagweithiol i gynyddu’r defnydd cymdeithasol ac academaidd o’r Gymraeg draws pob cyfnod allweddol, gan ddarparu cyfleoedd trochi iaith cyfoethog y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Trwy ein Cynllun Datblygu Ysgol a’n cyfranogiad gweithgar yn y Siarter Iaith, rydym yn meithrin hyder, rhaglunedd, a balchder ein disgyblion yn y Gymraeg yn barhaus, gan eu paratoi â sgiliau bywyd gwerthfawr a gwerthfawrogiad dwfn o’n diwylliant lleol bywiog.
Weithiau, mae rhieni di-Gymraeg yn aml yn mynegi eu bod yn poeni na allant helpu eu plentyn gyda'u dysgu os yw'n Gymraeg. Nid oes angen poeni. Os ydych chi neu eich plentyn yn cael trafferth deall ewch at yr athro dosbarth a byddant yn fwy na pharod i helpu.
Wrth gychwyn yn yr ysgol rhoddir llyfryn geiriau allweddol i rieni di-Gymraeg i'w cynorthwyo, a gellir dod o hyd i gopi digidol isod. Gallai fod yn gyfle gwych i ddysgu’r iaith ochr yn ochr â’ch plentyn.
