Cefnogi Teuluoedd
Mae bod yn rhiant yn anodd. Rhan o gefnogi’n dysgwyr yw cefnogi’r uned teulu cyfan. Os ydy pethau yn anodd, nyddwch yn agored gyda ni, ac mi wnawn ein gorau i’ch cyfeirio chi at gymorth. Gweler islaw grynodeb o gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd
Leusa Jenkins yw ein Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yma ym Mhenrhyncoch/Penllwyn ac mae hi ar gael i gefnogi chi a’ch teulu. Mae hi’n bwynt cyswllt os hoffech chi gael sgwrs gyfeillgar, os oes gennych unrhyw bryderon am eich plentyn, neu os oes angen cymorth ymarferol arnoch. Gall hi gynnig cefnogaeth gyda phethau fel:
• Llenwi ffurflenni neu geisiadau, e.e. atgyfeiriadau NSD, Tîm o Amgylch y Teulu (TAF), tai, ceisiadau sy’n gysylltiedig ag ysgol a mwy.
• Eich cyfeirio at y gwasanaethau neu sefydliadau cywir os oes angen cymorth arbenigol arnoch.
• Cael sgwrs gyffredinol am unrhyw bryderon sydd gennych chi neu’ch plentyn.
• Helpu chi i gael mynediad at gymorth ariannol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig ag ysgol.
Un enghraifft o hyn yw canllawiau ynghylch y costau cyfartalog sy’n gysylltiedig â blwyddyn ysgol. Fel rhan o’r prosiect “Gwella Cyrhaeddiad Dysgwyr o Gefndiroedd Difreintiedig”, ac ar adeg pan mae costau byw yn effeithio ar bob un ohonom, mae’r ysgol wedi amlinellu’r costau nodweddiadol y gallai teuluoedd eu disgwyl dros y flwyddyn. Er bod y rhain yn amrywio yn ôl oedran eich plentyn a’r gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt, rydym yn gobeithio y bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu wrth gynllunio cyllideb eich teulu.
Gall hi hefyd gynnig cefnogaeth gyda:
• Gwneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim (FSM) – gall hyn leihau costau teithiau, agor cymorth ychwanegol i’ch plentyn, a darparu mynediad at eitemau am ddim.
• Grantiau Gwisg Ysgol (Grant Mynediad PDG).
• Cymorth gyda mynediad at ddigwyddiadau ac ymweliadau ysgol – gan gynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael.
• Cyfeirio at wasanaethau lleol i deuluoedd a llesiant – megis grwpiau cefnogi rhieni, gweithgareddau i blant, a chyfleoedd cymunedol.
• Gwybodaeth am gymorth ariannol neu ymarferol ehangach a allai fod ar gael i deuluoedd yng Ngheredigion.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr ysgol o dan Cymorth Ariannol i Deuluoedd. Mae Leusa ar gael yn yr ysgol ar ddydd Mercher neu ddydd Iau ac yn fwy na pharod i gwrdd am sgwrs anffurfiol. Mae croeso i chi gysylltu â hi ar Leusa.jenkins@ceredigion.gov.uk neu ar 07977 636722 i drefnu amser sy’n addas i chi.
Gwasanaethau cefnogi teuluoedd Ceredigion
Ar wefan Cyngor Ceredigion ceir gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i gefnogi teuluoedd. Gwasanaethau i Gefnogi Teuluoedd - Cyngor Sir Ceredigion
Mae modd i rieni gyfeirio ei hun at y gwasanaethau yma am gymorth a chefnogaeth. Mae’n bosib y bydd yr ysgol yn eich cyfeirio at rhai o’r gwasanaethau yma os ydynt yn berthnasol i anghenion eich plentyn.
Ymwelydd Iechyd
Hyd at 5 oed, mae gwasanaeth ymwelydd iechyd yn parhau yn agored i chi. Os oes gyda chi unrhyw bryderon ynghylch datblygiad eich plentyn, dylech sŵn wrth eich ymwelydd iechyd. Cyn cychwyn yr ysgol, mae ystyried i ba raddau mae iaith lafar eich plentyn wedi datblygu, ac a ydynt eto wedi dysgu i ddefnyddio’r tŷ bach yn faterion gall yr ymwelydd iechyd eich cefnogi gyda.
Health Visitor - Hywel Dda University Health Board (nhs.wales)
Nyrs Ysgol
Cydweithia’r ysgol gyda gwasanaeth nyrs ysgol i gefnogi gydag anghenion meddygol disgyblion tra yn ddysgwyr yn yr ysgol.
Hywel Dda University Health Board School Nursing Service (Ceredigion) (wales.nhs.uk)
Cymorth Ariannol
Gweler adran ffurlenni gwefan y ffederaliaeth cliciwch am wybodaeth am ymgeisio am brydiau ysgol am ddim, cefnogaeth ariannol gyda gwisg ysgol, a chefnogaeth ariannol gyda theithio os yn berthnasol.
Ceir gwybodaeth gyffredinol am gefnogaeth ariannol tuag at ofal plant ar wefan Ceredigion. Mae hefyd modd ymgeisio am gefnogaeth ariannol tuag at ofal plant adeg gwyliau ysgol: Childcare - Ceredigion County Council
Iechyd Meddwl
Dyma restr o wefannau defnyddiol ar gyfer cefnogi iechyd meddwl rhieni.
Mental health and parenting | NSPCC
Parenting Mental Health - Supporting Parents, Supporting Children
Parenting and mental health - Mind
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn medru bod o fudd i iechyd meddwl. Gwelwch wefan y ffederasiwn am wybodaeth ynghylch gwirfoddoli yn yr ysgol. Dyma gyfloed eraill i wirfoddoli hefyd:
Getting Involved - Ceredigion County Council