Ein hysgol
Mae’r ddihareb Seisnig “It takes a village to raise a child” yn crynhoi i’r dim y profiad gynigwn i’n dysgwyr yma, yn ysgol Penrhyn-coch. Mae partneriaeth gref yr ysgol gyda’i chymuned yn cyfoethogi profiadau dysgu disgyblion ac yn magu ynddynt ymdeimlad cryf o berthyn. Boed trwy gymryd rhan yn Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch, Sioe’r Penrhyn, cydweithio a Garej Tŷ Mawr, cyfrannu i’r Tincer neu gefnogi'r Clwb Pêl Droed lleol, ymfalchïwn yn y cyfleoedd y mae ein milltir sgwâr yn cynnig inni fagu parch a chariad at fro eu mebyd ymysg ein disgyblion. Mae natur groesawgar staff a disgyblion ar gyrraedd yr ysgol yn ategu’r naws teuluol a chysurus yma.
Erbyn hyn mae rhyw 110 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, a rhennir disgyblion ar draws 4 ystafell ddosbarth. Gwasanaethir disgyblion gan dîm o staff gweithgar ac ymroddgar sydd yn gweithio’n ddiwyd i gefnogi disgyblion ar eu taith dysgu. Ar gychwyn yr ysgol, mae dosbarth bach o ran nifer yn darparu cyfle gwerthfawr i ddisgyblion ymgartrefi yn yr ysgol. Caiff pob dosbarth budd o fynediad uniongyrchol i’r ardal allanol. Buddsoddwyd yn ddiweddar mewn 2 llecyn allanol i ganiatâi i ddisgyblion weithio tu allan ym mhob tywydd. Buddiwn o’n partneriaeth gydag Ysgol Penllwyn trwy rannu arbenigedd staff ar draws y ddwy ysgol e.e. ar gyfer sesiynau addysg gorfforol. Mae ein safle eang yn cynnwys caban Cylch Meithrin Trefeurig, cwrs antur, gardd, cae pêl droed, iard ar flaen yr ysgol ac ardal dysgu allanol hael i’r disgyblion ieuengaf. Cyfoethogir ein cwricwlwm gan ein hardal allanol, sydd yn cynnig profiadau garddio, astudiaethau o fyd natur, a digonedd o le i archwilio amrywiaeth o gampau.
Galluoga lleoliad hylaw yng nghanol y pentref inni fynd ar grwydr yn aml. Awn am dro i’r parc, Cae Baker, Coedwig Gogerddan, i’r Capel, i’r Eglwys, i neuadd y pentref a’r siop yn gyson, fel dosbarthiadau cyfan ac fel grwpiau llai. Mae ein lleoliad canolig yn golygu bod nifer helaeth o’n disgyblion yn medru sgwtera, beicio neu gerdded i’r ysgol yn ddiogel.
Cadwch mewn Cysylltiad â Newyddion yr Ysgol
Rydym yn annog pob teulu i gadw i fyny gyda’r newyddion a’r gweithgareddau diweddaraf yn yr ysgol! Bob mis, rydym yn cyhoeddi erthygl yn Tincer, ein papur bro lleol wedi’i olygu gan wirfoddolwr a llywodraethwr hoffus ein hysgol, Ceris Gruffudd. Drwy brynu Tincer, gallwch ddarllen am ddigwyddiadau diweddar, llwyddiannau disgyblion, a chyfleoedd sydd ar y gorwel yn yr ysgol.
Yn ogystal, rydym yn rhannu diweddariadau, lluniau a chyhoeddiadau pwysig yn rheolaidd ar dudalennau swyddogol yr ysgol ar Facebook ac Instagram. Mae ein cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o aros yn gysylltiedig a dathlu ein cymuned ysgol gyda’n gilydd.
- Cylchgrawn Tincer: Ar gael i’w brynu’n lleol, gyda erthygl fisol gan yr ysgol. Y TINCER – Trefeurig
- Facebook: @ysgolpenrhyncoch
- Instagram: @ysgolpenrhyncoch
Edrychwn ymlaen at rannu ein straeon gyda chi!