Ein Ethos a Gwerthoedd
Plant hapus, sydd yn falch dod i’r ysgol yw trothwy ein gweledigaeth yn Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch. Credwn y gryf bod dysgwyr hapus yn ddysgwyr llwyddiannus. Tra bod disgyblion yn ein gofal, ein nod, yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:
dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu yn eu bywydau

cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae ran lawn mewn bywyd a gwaith

Cymry egwyddorol, gwybodus, sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd

unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Mae’r rhain yn seiliedig ar 4 Diben ‘Cwricwlwm i Gymru’ a ddaeth yn weithredol yn 2022. Penderfynwyd fel corff llywodraethol i fabwysiadu'r rhain fel prif werthoedd yr ysgol fel eu bônt yn ddyhead, ac yn nod i’n holl ymarfer, ac yn sail i ddysgu ac addysgu.
Ein gobaith yw:
- Mae pob disgybl yn datblygu chwilfrydedd, uchelgais a brwdfrydedd dros eu dysgu.
- Mae pob disgybl yn datblygu’r a throsglwyddo sgiliau craidd i gorau eu gallu
- Mae pob disgybl yn datblygu ei effeithlonrwydd personol gan eu galluogi i weithio’n annibynnol, i gyd-weithio gydag eraill ac addasu i heriau.
- Mae arweinwyr ac athrawon yn gyson yn gosod disgwyliadau uchel ar bob disgybl gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.
- cydweithia arweinwyr, athrawon a’r gymuned ehangach i ddarparu cwricwlwm amrywiol ac apelgar i’r holl ddysgwyr sydd yn cynnig profiadau i ddatrys problemau, meddwl yn feirniadol a bod yn greadigol.
- Mae’r ysgol, eu disgyblion a’u theuluoedd yn parchu ei gilydd ac yn cydweithio gydag empathi er lles ein gilydd.
‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’
Fel corff llywodraethol ac fel un corff o staff, anelwn at sicrhau bod ein partneriaeth o fudd i’n dysgwyr.
Cyfoethoga’r bartneriaeth brofiadau ac addysg dysgwyr y naill ysgol trwy:
- ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion feithrin cylch ehangach o ffrindiau cyn mentro i’r ysgol uwchradd.
- arloesi’r defnydd o dechnoleg fel cyfrwng i gyfathrebu a chydweithio ar draws y ddwy safle.
- Cyfleodd ar y cyd i fynegi barn a gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae’r ysgol yn gweithio e.e. pwyllgorau ysgol.
- rhannu arbenigedd a thalentau disgyblion wrth ddatblygu sgiliau arwain a chydweithio. E.e. timoedd chwaraeon, cyfleoedd perfformio a phrojectau ar y cyd
- rhannu arbenigedd dysgu staff wrth cyd-gynllunio profiadau dysgu a rhannu adnoddau.
- rhannu’r arferion orau a chymharu safonau ymysg disgyblion a staff
- cyfleoedd cyson i gymdeithasu yn y Gymraeg a phrofi amgylchedd gwahanol e.e. clwb yr urdd ar y cyd, digwyddiadau CRhA
- pwyllgorau ysgol ar y cyd
Cynefin
Mae ein cynefin yn arwain trywydd ein dysgu. Credwn yn gryf mewn magu gwreiddiau ein disgyblion yn ei hardal a’u cymuned. Cyfranna hyn at ymdeimlad ein disgyblion o’i hunaniaeth, gan fagu ynddynt barch tuag at y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhyngddynt ag eraill. Manteisiwn ar bob cyfle sydd yn codi i fynd ar grwydr yn ein hardal leol, ac i gwrdd a’i thrigolion hi, gan ddefnyddio rhain fel sbardun i’n dysgu. e.e. ymweliad a choedwig Gogerddan a thaith gerdded Ysbryd Y mwyngloddwyr i Gwmsymlog. Rydym yn tra ddiolchgar i’n partneriaid o fewn y gymuned am gyfoethogi profiadau dysgu ein dysgwyr. Rydym yn synod falch o food wedi ennill gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig am rein gwaith yn y maes.
Ysgol hybu iechyd
Mae hybu ffordd iach o fyw yn un arall o’n gwerthoedd craidd yma yn Ysgol Penrhyn-coch.
Mae Ysgol sy’n hybu iechyd wedi’i diffinio gan y Rhwydwaith Ysgolion Iach fel un sy’n mynd ati’n weithredol i hyrwyddo ac amddiffyn lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy weithredu cadarnhaol trwy ddulliau megis polisi, cynllunio strategol a datblygiad staff o ran ei chwricwlwm, ei hethos. , amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol. Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd cam 5 yn y Cynllun Ysgolion Hybu Iechyd.
Mae ysgol hybu iechyd...
- yn ysgol hapus
- yn gymuned ofalgar sy’n ymwneud ag iechyd ei holl aelodau, disgyblion, athrawon, staff nad ydynt yn addysgu a phawb sy’n rhyngweithio â hi
- annog disgyblion i gydnabod bod yr hyn y maent yn ei wneud yn cyfrif – ein bod ni i gyd yn effeithio ar fywydau ein gilydd
- cydnabod bod addysg iechyd nid yn unig yn cael ei haddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond yn cael ei chefnogi a’i hatgyfnerthu ym mywyd beunyddiol yr ysgol a’r gymuned leol
- yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar ddisgyblion am faeth, ymarfer corff, perthnasoedd, rhyw, ysmygu, cyffuriau ac alcohol ac yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain
Eco-Ysgol
Mae bod yn rhan o’r rhaglen Eco-Sgolion wedi chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo ein hymrwymiad i ddatblygu ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang a chynaliadwyedd ymhlith ein disgyblion. Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â 19.5 miliwn o blant ar draws 70 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Mae wedi'i gynllunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'w hysgol a'r gymuned ehangach, tra'n adeiladu ar eu sgiliau, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd, ac yn cwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Rydym yn falch o gael y wobr platinwm am ein gwaith yn y maes hwn.
Siartr Iaith
Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol ar gyfer ein hiaith, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Eu nod yw gweld nifer y rhai sy’n medru’r Gymraeg yn codi i filiwn erbyn y flwyddyn 2050. Pwrpas y Siartr Iaith yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae’r Siarter Iaith i bawb; mae gan bob aelod o gymuned yr ysgol ran i’w chwarae, y cyngor ysgol, dysgwyr, gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol berchnogaeth lawn o’u Siarter Iaith. Gyda’n gilydd byddwn yn cynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc.
Rydym yn falch o fod wedi ennill statws Arian am ein hymdrechion i hyrwyddo’r Siartr Iaith yn yr ysgol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at statws Aur.
Hawliau Plant
Yn Ysgol Penrhyn-coch rydym yn mabwysiadu ymagwedd hawliau plant yn seiliedig ar arweiniad Comisiynydd Plant Cymru. Sicrhawn fod disgyblion yn ymwybodol o’r comisiynydd a’i rôl, ac yn gwybod am eu hawliau o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Heriau Llysgenhadon Gwych a Mater y Mis, gan sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ar lefel genedlaethol.
