A Learning Organisation
Esbonia’r clip fideo'r nod yr anelwn ati - sef i ddatblygu yn sefydliad sy’n Dysgu.
Yn ddisgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, aelodau’r gymuned, yr awdurdod lleol a’r llywodraeth: mae gyda ni i gyd ein rhan i gyfrannu at wella ein ysgolion. Mae cael ein ystyried fel ysgolion sydd yn sefydliadau sy’n dysgu yn golygu ein bod ni i gyd yn agored ac yn chwilfrydig i ddysgu, hyfforddi, cydweithio archwilio a threialu er mwyn diwallu anghenion ein disgyblion.
Trwy ein prosesau gwella ansawdd, ffurfiwn gynllun datblygu ysgol ar y cyd (CDY) sydd yn ein gyrru tuag at ein gweledigaeth ar gyfer y ffederaliaeth.
Eleni, mae rein prosesau mewnol, ac arolygiad diweddar gain Estyn, rwedi adnabod 4 blaenoriaeth yr ydym yn mynd i’r afael a nhw sef:
-
Mynd i’r afael â’r mater iechyd a diogelwch a godwyd yn ystod yr arolygiad (Penrhyn-coch yn unrig)
-
Sicrhau bod disgwyliadau athrawon yn ddigon uchel i gefnogi’r holl ddisgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu
-
Datblygu medrau dysgu annibynnol disgyblion, gan gynnwys eu gallu i wneud dewisiadau ynglŷn â’u dysgu, gwella gwaith eu hunain, a dylanwadu ar waith yr ysgol.
- I wella rhuglder a dealltwriaeth darllen Cymraeg disgyblion ar draws blynyddoedd 3 i 6 y ddwy ysgol
Mae gyda ni i gyd fel rhan-ddeiliaid yr ysgol rôl i chwarae wrth sicrhau cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau yma. Os oes gyda chi syniadau am sut y medrwch gyfrannu at ein gweledigaeth, trafodwch gyda’r pennaeth.