Skip to content ↓

ALN

Sut mae anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu nodi?

Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae’n bwysig eich bod yn cyfathrebu hyn i’r ysgol pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol.

Os ydych chi, neu’r athro dosbarth, yn meddwl bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, trafod yw’r cam cyntaf. Trwy drafodaeth, gallwn sicrhau bod y plentyn, a phawb sy’n gysylltiedig yn cynllunio cefnogaeth addas ac yn ceisio cyngor pellach. Ceir rhagor o wybodaeth am ein polisi ADY ar y wefan ffederaliaeth.


Pwy sy'n gyfrifol am ADY?

Mae gan yr holl staff gyfrifoldeb am gefnogi disgyblion ag ADY. Miss Rhian Cory yw cydlynydd ADY. Mae'n cynghori ac yn trefnu cefnogaeth i ddisgyblion a staff. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori ag asiantaethau eraill megis gwasanaethau iechyd, athrawon ymgynghorol a seicolegwyr addysg.

Sut mae disgyblion ag ADY yn cael eu cefnogi?

Rhoddir sylw i unigolion a grwpiau o fewn y dosbarth ynghyd â chefnogaeth benodol gan staff cefnogi arbenigol. Trwy brosesau asesu manwl sy’n adnabod anghenion penodol plentyn yn gynnar, ein nod yw darparu rhaglen sy’n addas ar ei gyfer ac sy’n ei alluogi i lwyddo. Mae'r ysgol yn cynllunio cwricwlwm eang a chytbwys ar gyfer disgyblion, gan ddarparu adnoddau a chefnogaeth briodol gan sicrhau'r gwerth gorau posibl o'r gyllideb a ddyrennir gan yr Awdurdod Lleol. Rydym yn monitro ac adolygu cynnydd disgybl yn barhaus ac yn addasu'r ddarpariaeth yn ôl yr angen.

Sut byddaf yn gwybod a yw fy mhlentyn yn gwneud cynnydd?

Cedwir rhieni mewn cysylltiad agos ynglŷn â datblygiad eu plentyn, a gwahoddir rhieni i bob adolygiad o gynnydd.