Skip to content ↓

ALN

Mae ein polisi yn amlinellu’r ffordd y caiff disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eu hadnabodi a’u cefnogi yn unol â’r Cod a Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (2021).

Miss Rhian Cory yw'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch. Mae'r holl staff wedi'u hyfforddi i gefnogi disgyblion ADY.

Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ADY, neu os yw’r athro’n yn meddwl bod gan ddisgybl ADY mae’n bwysig iawn rhannu gwybodaeth, a chael trafodaeth ynglŷn â’r camau nesaf o ran cymorth. Ar ôl cyfnod o arsylwi, cynhelir adolygiad person-ganolog i benderfynu a oes gan blentyn ADY.

Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (boed yr anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Os oes ganddynt ADY at ddibenion y Cod a’r Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol, bydd yr ysgol neu’r awdurdod lleol yn creu dogfen o’r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a fydd yn nodi’r Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol y cytunwyd arni i gefnogi’r dysgwr. Mae'r CDU yn helpu oedolion o amgylch y plentyn i wybod beth yw'r ffordd orau i'w gefnogi. Gall fod gan ddysgwr CDU am gyfnod byr o amser, a dod i bwynt lle nad oes angen un arno mwyach. Neu efallai y bydd angen CDU ar ddysgwr i’w gefnogi drwy gydol ei amser yn yr ysgol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Mae gwybodaeth bellach i’w weld yma.

Rhoi system newydd anghenion dysgu ychwanegol yn ei le rhwng Medi 2021 ac Awst 2024 (llyw.cymru)

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please