Skip to content ↓

Teaching and Assessment

Pwrpas asesu yw cefnogi cynnydd pob dysgwr. Asesu yw’r broses o ddarganfod ble mae’r dysgwyr arni, adnabod eu camau nesaf,  cyn cynllunio a gweithredu. Dewisa staff strategaethau a dulliau addysgu yn effeithiol er mwyn llywio cynnydd disgyblion. Mae hyn yn cynnwys adnabod a oes Anghenion Dysgu Ychwanegol gan blentyn sydd yn gofyn am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol yn unol a’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

12 egwyddor addysgeg

Rydym yn benderfynol y dylai disgyblion arwain agweddau ar eu dysgu eu hunain, yn gwneud dewisiadau gwybodus yn gyson ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut.

Yn ystod eu hamser yn yr ysgol, cefnogwn ddisgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hun gan ddatblygu eu gallu i adnabod eu camau nesaf yn annibynnol. Rho hyn berchnogaeth iddynt ar eu hysgol a phopeth sy’n digwydd ynddi. Bydd athrawon yn:

  • cynnal ffocws cyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
  • annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
  • cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol
  • annog cydweithio
  • herio pob un o’r disgyblion trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrech gynaledig wrth fodloni disgwyliadau sy’n uchel ond y mae modd iddynt eu cyflawni
  • defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheiny sy’n hyrwyddo datrys problemau, meddwl creadigol a beirniadol
  • gosod tasgau ac yn dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
  • creu cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu
  • defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
  • atgyfnerthu cyfleoedd trawsgwricwlaidd yn rheolaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion eu hymarfer

 

Trefniadau asesu a sicrhau cynnydd pob disgybl

Bydd asesu yn digwydd fel parhaus o ddysgu ac addysgu o dydd i ddydd.  Fel rhan o’r Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y CiG) 2022, byddwn yn sicrhau ein bod yn: 

  • Gwneud trefniadau ar gyfer asesiad parhaus o bob disgybl a phlentyn drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd;
  • Gwneud trefniadau ar gyfer asesiadau dros amser e.e. wrth dderbyn disgyblion, a chynnal yr asesiadau hynny i bob plentyn/disgybl ar adegau penodol;
  • Gweithio o fewn yr ysgol a chydag ysgolion eraill i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a chynllunio ar gyfer pontio dysgwyr rhwng ysgolion;
  • Darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr fel eu bod yn deall cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud.

Gweler ein trefniadau asesu a pholisi adborth.