Skip to content ↓

Attendance

Data presenoldeb 2023-24: 

Canran 93.5%       

A yw fy mhlentyn yn rhy sâl i fynd i’r ysgol? – y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (www.nhs.uk)

Targed yr ysgol ar gyfer y disgyblion i gyd – 93.5%

Mae pob diwrnod yn cyfri

Drwy fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac ar amser byddwch yn helpu i sicrhau ei fod yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd.

Mae Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn yn benderfynol o sicrhau fod pob plentyn yn cyflawni ei botensial llawn o ran dysgu a datblygu.  Er mwyn i ddisgyblion wneud y mwyaf o'u haddysg mae'n hanfodol eu bod yn mynychu'n rheolaidd ac ar amser, bob diwrnod y mae'r ysgol ar agor, oni bai nad oes modd osgoi bod yn absennol.  Mae Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn yn cydnabod fod plant a phobl ifanc yn sâl o bryd i’w gilydd ac yn methu dod i'r ysgol, neu efallai fod argyfwng teuluol yn codi.

Rydym hefyd yn cydnabod fod lles emosiynol eich plentyn yn bwysig iawn. Os ydych yn becso bod eich plentyn yn absennol yn rheolaidd o achos ei les emosiynol, cysylltwch ag athro/athrawes eich plentyn yn y lle cyntaf, cyn gynted ag y bo modd, i gael cymorth.

Os oes gennych ymholiad neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i sicrhau fod presenoldeb eich plentyn yn unol â tharged yr ysgol neu'n uwch na hynny, cysylltwch â phennaeth blwyddyn eich plentyn yn y lle cyntaf.  Cofiwch fod pob diwrnod yn cyfri!

 

Presenoldeb mewn un flwyddyn ysgol

Cyfateb mewn diwrnodau

Cyfateb mewn sesiynau

Cyfateb mewn wythnosau

95%

9 diwrnod

18 sesiwn

1.4 wythnos

90%

19 diwrnod

38 sesiwn

3.4 wythnos

85%

29 diwrnod

58 sesiwn

5.4 wythnos

80%

36 diwrnod

72 sesiwn

7.1 wythnos

75%

48 diwrnod

96 sesiwn

9.3 wythnos

70%

57 diwrnod

114 sesiwn

11.2 wythnos

65%

67 diwrnod

134 sesiwn

13.2 wythnos

 

 

 

 

 

 

 

Partneriaeth Cartref / Ysgol

Er mwyn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau fod disgyblion yn bresennol yn rheolaidd yn yr ysgol, byddwn yn:

  • Cadw cofnod cywir o’r codau presenoldeb er mwyn sicrhau diogelwch pob disgybl a bodloni’r gofynion cyfreithiol.   Mae’n rhaid i ysgolion, o dan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010, gymryd cofrestr presenoldeb ddwywaith y dydd – ar ddechrau sesiwn y bore ac unwaith yn ystod sesiwn y prynhawn.
  • Gwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych mewn perthynas â'ch plentyn a chynnig cymorth.
  • Rhoi gwybod i rieni am bryderon ynghylch presenoldeb disgyblion cyn gynted â phosib.
  • Rhoi gwybod i rieni am bresenoldeb yr ysgol gyfan drwy gylchlythyrau / nosweithiau rhieni / hysbysfyrddau.
  • Rhoi gwybod i rieni am weithdrefnau a disgwyliadau’r ysgol o ran presenoldeb.
  • Dilyn gweithdrefnau presenoldeb.
  • Cyfeirio at yr Awdurdod Lleol os bydd presenoldeb yn parhau i waethygu.

Prydlondeb

Hoffem atgoffa rhieni/gofalwyr mor bwysig yw sicrhau fod pob plentyn yn dod i’r ysgol ar amser.  Mae diwrnod ysgol yn dechrau am 8:50 y bore a byddem yn gobeithio fod pob disgybl yn yr ysgol erbyn hynny.   Bydd disgyblion sy’n cyrraedd ar ôl yr amser hwn yn cael eu cofnodi fel hyn:

  • L – hwyr, a chyn i’r gofrestr gau - pan fydd eich plentyn ychydig funudau yn hwyr; neu
  • U – hwyr, ar ôl i’r gofrestr gau - mae hyn yn cyfri fel absenoldeb anawdurdodedig (absenoldeb heb ganiatâd).

Mae cyrraedd yr ysgol yn hwyr nid yn unig yn amharu ar addysg yr un sy'n hwyr ond hefyd ar y disgyblion hynny sydd eisoes yn yr ysgol.  Mae colli ugain munud bob wythnos o'r ysgol yn ychwanegu dros 11 awr neu bron i 3 diwrnod cyfan o ddysgu dros y flwyddyn.

Mae bod ar amser:

  • yn rhoi dechreuad da i ddiwrnod eich plentyn ac yn rhoi eich plentyn mewn ffordd gadarnhaol o feddwl er mwyn gwneud y mwyaf o’r addysg. 
  • yn gosod patrymau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
  • yn arwain at bresenoldeb da.
  • yn arwain at gyflawni mwy.
  • yn arwain at ddeall bod yr ysgol yn bwysig a bod addysg yn werthfawr.
  • yn helpu eich plentyn i ddatblygu cyfrifoldeb drosto’i hun a thros eraill.
  • yn helpu eich plentyn i wneud ffrindiau a chadw ffrindiau.
  • yn dod â manteision; mae'n arwain at lwyddiant a hunanhyder.

Diolch ichi am eich cydweithrediad i sicrhau fod eich plentyn yn cael y cyfle gorau posib i elwa o’r addysg yn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.

 

 

Y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd eich plentyn yn absennol

Os bydd eich plentyn yn absennol o'r ysgol, anfonwch neges ar parentmail neu e-bostiwch prif@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk gan adael y manylion canlynol:

  • Enw'r disgybl
  • Pa flwyddyn
  • Natur y salwch/rheswm dros yr absenoldeb
  • Dyddiad y disgwylir iddo/iddi ddychwelyd
  • Enw a pherthynas y cysylltwr â'r disgybl

Rhaid i chi gysylltu â'r ysgol cyn gynted â phosib yn y bore ar bob diwrnod o absenoldeb.  Os na fyddwn yn clywed gennych, bydd yr ysgol yn ffonio neu'n tecstio ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb.   Yn achos cyfnod hir o absenoldeb, mae’n bosib y bydd yr ysgol yn cysylltu â'r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg i wirio lles y plentyn.

Dylai disgybl fod yn absennol dim ond pan fo rhesymau dilys h.y. salwch, profedigaeth deuluol, defodau crefyddol.  Rydym yn gobeithio y bydd rhieni'n gallu cadw apwyntiadau deintyddol a meddygol ar gyfer gwyliau ysgol neu ar ôl oriau ysgol.  Os oes angen i'ch plentyn adael yr ysgol i fynd i apwyntiad deintydd neu feddyg, gofynnwn i chi eu casglu yn ystod amser chwarae/ginio o iard yr ysgol.

Gwyliau yn ystod y tymor

Wrth ystyried cais am wyliau yn ystod y tymor mae'r canlynol yn cael eu hystyried:

  • Hanes eich plentyn o ran presenoldeb
  • A oes gwyliau wedi eu cymryd eisoes yn ystod y flwyddyn ysgol
  • Pa gyfnod addysgol y mae eich plentyn arno
  • Yr adeg o'r flwyddyn (arholiadau ac ati)
  • Natur y daith (amgylchiadau eithriadol)

Efallai y bydd adegau pan na fydd ysgol eich plentyn yn cytuno i’r absenoldeb, hyd yn oed mewn amgylchiadau eithriadol.

Os oes gan rieni blant mewn mwy nag un ysgol, rhaid gwneud cais ar wahân i bob ysgol. Bydd Pennaeth pob ysgol yn gwneud ei benderfyniad ei hun ar sail y ffactorau sy'n ymwneud â'r plentyn sydd yn ei ysgol.

 

Beth sy’n digwydd os bydd presenoldeb eich plentyn yn disgyn o dan 92%

  • Gall rhieni dderbyn llythyr oddi wrth yr ysgol yn eu hysbysu o bresenoldeb eu plentyn a nifer y diwrnodau a gollwyd.
  • Os bydd presenoldeb yn parhau i fod yn bryder gall yr ysgol wahodd y rhieni i mewn am gyfarfod a gellir gwahodd y Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg neu asiantaethau perthnasol eraill hefyd.
  • Yn dilyn y cyfarfod, os bydd presenoldeb eich plentyn yn parhau i fod yn bryder gall yr ysgol gyfeirio’r mater i’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg.
  • Eich cyfrifoldeb cyfreithiol chi yw sicrhau fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac os bydd yn absennol o'r ysgol heb reswm da, gall hyn arwain at gyflwyno hysbysiad o gosb benodedig neu erlyn.  Mae bod yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd yn effeithio ar batrwm dysgu’r plentyn a gall effeithio'n ddifrifol ar ei addysg.

Os bydd y ganran presenoldeb o gwmpas neu o dan 90% caiff disgybl ei ddiffinio fel un sy’n absennol yn gyson (colli 19 o ddiwrnodau ysgol)

Llun

Mawrth

Mercher

Iau

Gwener

 

 

 

 

 

 

X

 

 

 

                   

 

Mae presenoldeb o 90% yn golygu bod y disgybl yn:

  • Colli hanner diwrnod bob wythnos
  • Colli dros bedair wythnos o ysgol mewn blwyddyn
  • Pethau i’w cofio

    • Cysylltu â’r ysgol ar y diwrnod y mae eich plentyn yn absennol.
    • Nid oes rhaid awdurdodi salwch, ond os yw eich plentyn yn gwella, anfonwch nhw mewn a gall yr ysgol roi meddyginiaeth allan.
    • Gall yr ysgol ofyn am dystiolaeth feddygol e.e. llun o’r feddyginiaeth os yw eich plentyn yn absennol yn gyson o achos salwch.
    • Mae cyrraedd yr ysgol yn hwyr yn gallu effeithio ar bresenoldeb eich plentyn.
    • Os oes materion penodol sy’n atal eich plentyn rhag mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac ar amser, cysylltwch â’r ysgol. Maen nhw yno i helpu a chefnogi.
    Colli hanner blwyddyn ysgol dros gyfnod o bum mlynedd