Class 4
Yn y dosbarth mae yna 28 o ddisgyblion.
Y mae Mrs. Lynwen Evans yn edrych ymlaen at ddysgu y plant eleni. Yn ei chefnogi, yn achlysurol, y mae Miss Julie Hall.
Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol:
- Gofynnwn i chi gollwng eich plentyn pob bore wrth ddrws y dosbarth sydd wrth gefn yr ysgol erbyn 9 y.b. Ar ddiwedd y dydd mi fyddwn yn rhyddhau’r plant o’r brif fynedfa.
- Gofynnwn i chi ddanfon tocyn ffrwyth/llysieuyn a photel dŵr gyda'ch plentyn pob dydd.
- Mae ein gwersi Lles ar ddydd Iau.
- Sesiynau addysg gorfforol yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener - Gofynnwn yn garedig bod eich plentyn yn gwisgo'r cit ymarfer corff i’r ysgol ar y diwrnod hwn.
- Sesiynau nofio pob ddydd Iau hyd at wyliau’r hanner tymor.
- Dosbarthwyd gwaith cartref ar ddydd Gwener. Gofynnwn fod y gwaith yn cael ei ddychwelyd erbyn y dydd Llun neu ddydd Mawrth dilynol.