Skip to content ↓

Curriculum Summary

Cynllunio ein Cwricwlwm

Cwricwlwm ysgol ydy popeth mae disgyblion yn ei brofi yn yr ysgol.

Wrth baratoi at gyflwyno'r cwricwlwm newydd rydym wedi bod yn gwrando ar lais rhanddeiliaid. Mae ein cwricwlwm yn perthyn i’r dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol.

 Dyma flas ar gyfraniad aelodau’r gymuned ysgol, sydd wedi cyfrannu at greu ein cwricwlwm:

 

 

Mae llais y disgybl yn allweddol yn ein proses dylunio ac rydym yn cydweithio yn barhaus â'r dysgwyr er mwyn paratoi cwricwlwm cyffrous, heriol a pherthnasol. Cydystyriwn syniadau am sut all cymuned ehangach yr ysgol gyfrannu at ein taith ddysgu er mwyn cyfoethogi profiadau disgyblion. Mae datblygu ein cwricwlwm yn broses parhaus gan sicrhau eu bod yn gyfredol ac addas i’n dysgwyr.

Rydym wedi bod yn arwain a hyfforddi staff er mwyn sicrhau hyder ac arloesedd wrth gynllunio cwricwlwm sy’n hyrwyddo ein gweledigaeth, a bydyn yn parhau i gynnal hyfforddiant ysgol gyfan ar egwyddorion addysgu’r cwricwlwm.   Mae ein staff wedi manteisio ar rwydweithiau a hyfforddiant sirol a chenedlaethol. Mae arweinwyr wedi bod yn monitro a gwerthuso’r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno Cwricwlwm i Gymru a chynllunio’r camau nesaf. 

 

Hanfod y Dysgu

Y 4 Diben

Yn y ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’ amlinellir 4 diben Cwricwlwm i Gymru. Mabwysiadwyd y rhain fel ein gwerthoedd yn yr ysgol. Rhain yw’n dyhead ar gyfer pob dysgwyr, a’r amcanion sydd yn ein llywio wrth inni gynllunio ein darpariaeth. Mae ein ‘cwricwlwm’ yn cynnwys yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu a gynlluniwyd er mwyn cyflawni pedwar diben y cwricwlwm, sef datblygu plant a phobl ifanc i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Wrth anelu am y 4 diben, dylid rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu creadigrwydd ac arloesi, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, datblygu effeithlonrwydd personol a’r gallu i gynllunio a threfnu.

 

Cwricwlwm Cynhwysol

Rydym yn benderfynol o sicrhau cwricwlwm cynhwysol sydd yn hygyrch i bob disgybl ac yn ymateb i’r côd anghenion dysgu ychwanegol newydd. Bydd ein holl staff yn ymrwymo i sicrhau strwythur cwricwlwm arloesol i ddiwallu anghenion dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau sydd yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol disgyblion.

 

Ein Cwricwlwm ar waith


Ein bwriad yw sicrhau bod disgyblion yn ein gadael ni yn fedrus o ran ei Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol un unol a’r fframweithiau cenedlaethol.

Mae cyfrifoldeb arnom i ysgogi ac ennyn diddordeb disgyblion yn eu dysgu er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt wneud cynnydd. Gwnawn hyn trwy gynnig cwricwlwm eang a chytbwys sydd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r hyn sy’n bwysig o dan chwe maes dysgu a phrofiad sef:

· Celfyddydau Mynegiannol

· Dyniaethau

· Mathemateg a Rhifedd

· Iechyd a Lles

· Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

· Gwyddoniaeth a Thechnoleg

 

          

Archwiliwn ‘Cwestiynau ymholi’ yn drawsgwricwlaidd gan blethu profiadau, gwybodaeth a’r sgiliau o’r chwe maes dysgu a phrofiad.

Yn ogystal bydd Cwricwlwm Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

addysgu a dysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i'r dysgwyr hynny ym Mlwyddyn 1 ac uwch yn unol â gofynion y Cwricwlwm i Gymru.

addysgu a dysgu sy'n cyd-fynd â'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a gwneud hyn mewn ffordd sy’n briodol o safbwynt datblygiad