Skip to content ↓

Communication

Dyma'r ffyrdd gorau o gysylltu â’r ysgol am eich plentyn a materion cysylltiedig:

 

Yn bersonol ar ddiwedd diwrnod ysgol

Bydd ein hathrawon y tu allan ar ddiwedd y diwrnod ysgol pan fyddwch yn codi eich plentyn. Mae hon yn ffordd gyfeillgar, hawdd a hylaw i gadw mewn cysylltiad.

 

  Class Dojo

Mae Class Dojo yn ap rhad ac am ddim ar gyfer rhannu gweithgareddau ysgol o ddydd i ddydd, gwaith dosbarth a gwaith cartref. Defnyddiwch hwn i anfon neges uniongyrchol at eich athro gyda chwestiynau a phryderon ymarferol.

Gallwch chi lawrlwytho'r app yma: https://www.classdojo.com

 Ar ôl ei lawrlwytho chwiliwch am ein hysgol, yna eich athro i ofyn am gôd mynediad.

 

 

  

System ar gyfer anfon llythyrau yw Parentmail. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer nodi absenoldebau, a thalu'n ddigidol am dripiau a digwyddiadau.

Lawrlwythwch parentmail yma               Login - IRIS ParentMail

 

Ebost

Os hoffech godi unrhyw fater am yr ysgol a’i gweithdrefnau cysylltwch â’r pennaeth ar ein prif e-bost sef prif@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk

Ein nod yw ymateb i hyn o fewn 48 awr.

Ar gyfer materion ar lefel uwch e-bostiwch ein cadeirydd llywodraethwyr ar millsr43@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk

 

Adroddiadau cynnydd

Rydym yn cynnal nosweithiau rhieni wyneb yn wyneb ddwywaith y flwyddyn. Gallwch wneud apwyntiad yn yr amserlen ar gyfer sgwrs eistedd i lawr un-i-un am gynnydd eich plentyn a chael cyfle i weld gwaith eich plentyn. Byddwch hefyd yn derbyn adroddiad ysgrifenedig yn nhymor yr haf.

 

Calendr

Darganfyddwch am ddigwyddiadau'r tymor ar ein calendr ysgol sydd i'w weld ar dudalen galendr ar y wefan. Gellir cysoni’r calendr gyda’r ap calendr google os chwiliwch am ‘Rhieni a Disgyblion Ysgol Penrhyncoch’

 

Ni ddylai rhieni ddisgwyl i bob anghytundeb, siom neu gyflawniad y mae plentyn yn ei brofi yn ystod y diwrnod ysgol gael ei gyfleu. Bydd athrawon yn ymarfer barn broffesiynol fesul achos, ac yn cyfathrebu naill ai ar class dojo, neu os oes angen trafodaeth bellach arnynt, yn bersonol/dros y ffôn.

 

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i feithrin awyrgylch barchus, cwrtais a chynhwysol lle gall athrawon a disgyblion ffynnu. Byddwch yn ymwybodol o hyn ym mhob cyfathrebiad â'n tîm. Ni fydd achosion lle na ddangosir urddas a pharch yn cael eu goddef (h.y. trwy gwynion maleisus neu flinderus neu ymddygiad yr ystyrir ei fod yn gyfystyr â bwlio ac aflonyddu).