Skip to content ↓

School Day

Clwb Gofal Amser Brecwast

Cynigwn glwb gofal cyn ysgol yn Neuadd yr Ysgol. Ni chynigir bwyd, ond mae croeso i ddisgyblion ddod a thocyn i fwyta yn ystod y cyfnod hwn. Mae allanfa dan y neuadd ar agor i ddisgyblion gyrraedd rhwng 8.15yb ac 8.30yb.  

Mae angen cofrestri er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Cewch gyfle i wneud ar ddechrau blwyddyn ysgol wrth lenwi ffurflen gwybodaeth, neu cysylltwch â swyddfa’r ysgol yn ystod y tymor.

 

ORIAU’R YSGOL Blwyddyn Derbyn i 2

Bore:                                 9.00 - 12.00 

Amser Chwarae:           10.15 - 10.30 

Amser Cinio :                 11.40 - 12.40 

Prynhawn:                      12.40 - 3.30 

Amser Chwarae:           2.00 – 2.15 

 

ORIAU’R YSGOL Blwyddyn 3 i 6

Bore:                                 9.00 - 12.00 

Amser Chwarae:           10.30 - 10.45 

Amser Cinio :                 12.10 - 1.10 

Prynhawn:                      1.10 - 3.30 

Amser Chwarae:           2.15 – 2.30 

 

Mae’r ysgol ar agor i ddisgyblion gyrraedd a mynd i’w dosbarthiadau o 8.50yb ymlaen. Yn ystod yr amser yma mae disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau bore sydd yn cynnwys ymarferion darllen, llawysgrifen ayyb.

 

Beth sydd angen ar gyfer diwrnod ysgol?

  • Cot law
  • Potel Dwr
  • Tocyn - ffrwyth neu lysiau
  • Llyfr Darllen

 

Edrychwch ar amserlen wythnosol dosbarth eich plentyn ac amserlen clybiau ar ôl ysgol er mwyn gwybod pryd fydd angen dillad ymarfer corff, offeryn, gwisg nofio neu offer penodol.

 

Sicrhewch fod gan eich plentyn yr hyn sydd angen yn ôl y tywydd:

Tywydd poeth – eli haul, het haul,

Tywydd oer – gwisgo haenau, het, sgarff, menig, esgidiau glaw,

Gofynnwn yn garedig i chi beidio caniatâi i’ch plentyn ddod ag eiddo personol megis teganau neu eiddo gwerthfawr i’r ysgol. 

 Mae hyn yn cynnwys dyfeisiadau electronig megs ffonau symudol a 'smart watch'. 

Argymhellwn i chi beidio gwario yn ormodol ar esgidiau, cotiau a bagiau ysgol gan na allwn sicrhau na fydd disgyblion yn eu colli, neu eu torri.  

 

Clwb Caban – gofal ar ôl ysgol

Mae Cylch Meithrin Trefeurig yn cynnal Clwb Ar ôl Ysgol. Os oes angen gofal ar ôl ysgol arnoch cysylltwch gyda Jackie James ar cmtrefeurig@gmail.com neu 07527035190 am wybodaeth bellach.