Skip to content ↓

Home Learning

Rhoddir gwaith cartref i'r disgyblion yn wythnosol sy'n atgyfnerthu eu dysgu o fewn y dosbarth.

Ar ddechrau dosbarth 1, darllen yw gwaith cartref disgyblion. Yn ystod y cyfnod yma, anogir rhieni i gefnogi eu plentyn i adnabod llythrennau ac wrth iddynt ddatblygu darllen geiriau ffonetig a geiriau aml-ddefnydd. Erbyn diwedd dosbarth 1 anogir rhieni i gefnogi eu plentyn i ddarllen llyfrau o her gynyddol a chadw cofnod yn y llyfr cyswllt. Ar adegau bydd disgyblion yn cael ymarferion llythrennedd a rhifedd adref i'w cynorthwyo i adalw ffeithiau sillafu a rhif sylfaenol yn gyflym.

Erbyn dosbarth 2 rydym yn annog rhieni i barhau i wrando ar eu plant yn darllen, ac i gadw cofnod o hyn yng nghofnod darllen y plentyn. Mae llyfr cofnod darllen yr ysgol yn cynnwys rhai cwestiynau enghreifftiol y gall rhieni cyfeirio atynt wrth ddarllen gyda’u plentyn sy’n eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r testun.

Bydd gwaith cartref eto yn atgyfnerthu dysgu o fewn y dosbarth, a gellir ei gylchdroi rhwng Cymraeg, Mathemateg a Saesneg. Bydd ymarferion sillafu a rhifedd wythnosol yn cael ei anfon adref i gynorthwyo cofio patrymau sillafu a ffeithiau rhif yn gyflym. Mae'r ysgol yn defnyddio TT Rockstars i ymarfer tablau a j2blast i ymarfer sillafu. Sicrhewch fod eich plentyn yn gallu cael mynediad at y rhain.

Gosodir gwaith cartref ym mlynyddoedd hŷn yr ysgol ar Microsoft Teams. Sicrhewch bod eich eich plentyn yn ymwybodol o’i anylion mewngofnodi Hwb er mwyn gallu cael mynediad at waith cartref. Cysylltwch os hoffech i'r ysgol drefnu dyfais at ddefnydd eich plenty adref.  

Efallai y bydd rhai disgyblion yn derbyn deunydd dysgu cartref mwy personol i'w cynorthwyo gyda maes y maent yn ei chael yn anodd yn y dosbarth.