Skip to content ↓

Our Community

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Penrhyn-coch - Pentref tua 4½ milltir i’r gogledd o Aberystwyth  ym mhlwyf Trefeurig wedi ei leoli rhwng afonydd Stewi a Nant Seilo – mae y ddwy afon fach yn ymuno i fod yn Afon Clarach cyn cyrraedd Plasdy Gogerddan a llifo i’r môr.

Mwynwyr ac amaethwyr oedd gwaith mwyafrif trigolion yr ardal – ac roedd nifer yn cael eu cyflogi gan stad Gogerddan. Gwerthwyd y stad i Goleg Prifysgol Aberystwyth ym 1949; daeth yn Fridfa Blanhigion Cymru, wedyn IBERS sydd bellach yn rhan o Brifysgol Aberystwyth; tyfodd y pentref yn sydyn o ddiwedd y 1960au ymlaen (poblogaeth 2020 – 1,336) pan fu tipyn o adeiladu stadau tai yma - ac mae’n dal i dyfu.

 

Mae dwy siop yn y pentref – un yn y Llythyrdy ac un yng ngorsaf betrol Tŷ Mawr. Mae Eglwys St Ioan (1881) drws nesaf i’r ysgol a Chapel Horeb (Bedyddwyr) (1788/9) ym mhen uchaf y pentref, heibio Neuadd y Penrhyn adeiladwyd yn 1960.  Mae y tim pêl-droed yn enwog – ac mae eu Clwb Cymdeithasol (agorwyd 1981) dros y ffordd i’r ysgol. Adeiladwyd ysgol newydd yn 1969; ail agorwyd ym 1980 a chafwyd estyniad iddi yn 2005.Gwasanaetha’r ysgol (ca 100 disgybl)  blwyf Trefeurig – pentrefi Banc-y-darren, Capel Madog, Cefn-llwyd, Cwmerfyn, Cwmsymlog, Salem a Phen-bont Rhydybeddau.

Mae’n debyg mai y person enwocaf sydd yn gysylltiedig a’r ardal yw  Dafydd ap Gwilym – y bardd o’r 14 ganrif anwyd ym Mro Gynin.

 

Gellir darllen mwy – a dilyn beth sydd ymlaen ar wefan Trefeurig https://trefeurig.cymru