Skip to content ↓

Meals and Snacks

Cinio Ysgol

Mae’r ysgol yn darparu cinio iach AM DDIM i ddisgyblion y Dosbarth Derbyn i flwyddyn 2, gyda chynlluniau i gynyddu’r ddarpariaeth hon yn fuan.

Efallai eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran ffurflenni ar wefan ein ffederasiwn.

Ar hyn o bryd mae gofyn i rieni disgyblion Blwyddyn 3-6 dalu am fwyd eu plentyn gan ddefnyddio Parentpay. Mae gwybodaeth am gost, bwydlen a sut i dalu ar gael ar wefan cyngor sir Ceredigion. School Meals - Ceredigion County Council

Pecyn bwyd

Os nad yw eich plentyn eisiau cinio ysgol, mae croeso i chi ddarparu pecyn bwyd iach.

Cofiwch -

• Cynhwyswch fwydydd iach

• golchwch focs bwyd eich plentyn yn rheolaidd

• rhowch becyn iâ yn y bocs bwyd i gadw'r bwyd yn ffres

Dewch o hyd i rai syniadau yn y dolenni isod.

 

Dŵr

Darparwch botel ddŵr i'ch plentyn os gwelwch yn dda. Mae ffynnon ddŵr ar gael yn yr ysgol ar gyfer ail-lenwi.

Ni chaniateir dod â sudd na diodydd swigof i’r ysgol.

Cofiwch olchi'r botel yn rheolaidd.

 

Llaeth

Darperir llaeth i bob plentyn o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 2 i'w yfed yn ddyddiol. Os oes gan eich plentyn alergedd i laeth, rhowch wybod i'r ysgol.

 

Tocyn

Darparwch ddarn o ffrwythau/llysiau i’ch plentyn fwyta yn ystod y dydd.

Dyma rai syniadau:

Ffrwythau/llysiau ffres – oren, mafon, banana, afal, melon, mefus, ffyn moron, ffyn ciwcymbr, olewydd,

Ffrwythau sych - rhesins, bricyll, llugaeron, tomato sych, cnau

Llysiau wedi'u piclo - picls,