Skip to content ↓

Music

Caiff bob disgybl gyfle i ddysgu a phrofi cerddoriaeth fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Caiff ddisgyblion gyfle i brofi cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth o amrywiaeth o ddiwylliannau a genres. Cyfleoedd i fod yn greadigol a chreu trefniadau a chyfansoddiadau syml, a chyfleoedd i fireinio perfformiadau gyda’r llais a chael blas ar offerynnau amrywiol.

Mae Cerddoriaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith gyda’r gymuned. Bachwn bob cyfle i ddisgyblion feithrin yr hyder i godi o flaen gynulleidfa. Cyniga cyngherddau, eisteddfodau ysgol ac Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch yn ogystal a’r Urdd brofiadau gwerthfawr a chofiadwy i’n disgyblion.

Trwy wasanaeth Gerdd Ceredigion cynigir gwersi offerynnol  yn cynnwys gwersi piano, gwersi llinynnau, gwersi pres a gwersi chwythbrennau. Yn ddibynnol ar yr offeryn, cynigir gwersi fel arfer i ddisgyblion o flwyddyn 3 ymlaen. Daw cyfle i archebu gwersi offerynnol am y flwyddyn ar ddiwedd tymor yr Haf yn flynyddol.

Cysylltwch gyda  gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk neu ewch i’w tudalen Facebook: Gwasanaeth Cerdd Ceredigion Music Service.