Attendance
Data presenoldeb 2022-23:
Canran 92.97% 2% absenoldeb anawdurdodedig 5.03% absenoldeb awdurdodedig
Os yw eich plentyn yn absennol o’r ysgol am unrhyw reswm, holwn i chi ein hysbysu yn yr ysgol. Holwn i chi wneud hyn trwy parentmail.
Nodwn absenoldebau a phrydlondeb ar gofrestr ddyddiol. Rydym yn monitro’r gofrestr yn gyson. Os sylwir ar unrhyw batrymau / cyfraddau uchel o absenoldeb, mae’n debygol y bydd yr ysgol neu’r swyddog cynhwysiant sydd yng nghyswllt a’r ysgol yn cysylltu gyda chi.
O dan y Ddeddf Addysg (1996), mae’n gyfrifoldeb i’r rhieni sicrhau fod eu mab/ merch yn mynychu ysgol.Mae presenoldeb ysgol reolaidd yn hanfodol a gall colli ysgol gael effaith arwyddocaol ar gyflawniad dros gyfnod o flwyddyn fel y nodir isod:
Gwyliau adeg tymor ysgol
Fel ysgol nid ydym yn cymeradwyo gwyliau adeg tymor fel y nodir yn Rheoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2006. O ganlyniad caiff absenoldeb eich plentyn/plant ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig.
Am ba hyd y dylid cadw fy mhlentyn oddi ar yr ysgol os yw'n sâl?
Gweler tabl isod gyda manylion am reoli clefydau heintus mewn ysgolion, mewn achos y clefydau mwyaf cyffredin rydym yn derbyn ymholiadau yn eu cylch:
Salwch |
Mesurau Lliniaru Salwch
|
Peswch ac annwyd |
Mae’n iawn anfon eich plentyn i’r ysgol gyda mân beswch neu annwyd cyffredin. Ond os oes ganddyn nhw dwymyn, cadwch nhw i ffwrdd nes i'r dwymyn fynd. Anogwch chi i daflu hancesi papur sydd wedi'u defnyddio a golchi eu dwylo. |
Tymheredd Uchel |
Cadwch nhw i ffwrdd o'r ysgol nes iddi fynd.
|
‘Cols Sore’ |
Nid oes angen cadw eich plentyn oddi ar yr ysgol. Anogwch nhw i beidio â chyffwrdd â’r pothell na chusanu neb, na rhannu pethau fel cwpanau a thywelion.
|
Brech yr Ieir |
Cadwch nhw oddi ar yr ysgol nes bod y smotiau i gyd wedi sychu. Mae hyn fel arfer 5 diwrnod ar ôl i'r smotiau ymddangos gyntaf.
|
Llid yr Amrannau |
Nid oes angen cadw eich plentyn oddi ar yr ysgol. Ewch I fferyllydd am gyngor. Anogwch eich plentyn i beidio â rhwbio ei lygaid ac i olchi ei ddwylo’n rheolaidd.
|
Coronafeirws (Covid 19) |
Arhoswch gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os oes ganddynt symptomau covid 19 a bod ganddynt naill ai: • Tymheredd uchel • Ddim yn teimlo'n ddigon da i fynd i'r ysgol neu wneud gweithgareddau arferol. Os oes ganddynt symptomau ysgafn ac yn teimlo'n ddigon da, gallant ddod i'r ysgol o hyd. |
Y dwymyn goch |
Os oes gan eich plentyn y dwymyn goch, mae angen iddo gael triniaeth gwrthfiotig gan feddyg teulu. Gall eich plentyn ddod yn ôl i'r ysgol 24 awr ar ôl dechrau gwrthfiotigau.
|
Gwddf Tost |
Gallwch ddal i anfon eich plentyn i'r ysgol gyda dolur gwddf. Ond os oes ganddyn nhw dymheredd uchel hefyd, dylen nhw aros gartref nes iddo fynd i ffwrdd. |
Chwydu a dolur rhydd |
Dylai plant sydd â dolur rhydd neu sy'n chwydu gadw draw o'r ysgol nes nad ydynt wedi bod yn sâl neu wedi cael dolur rhydd am o leiaf 48 awr.
|
Cyfeiriwch at y GIG am gyngor pellach Is my child too ill for school? - NHS (www.nhs.uk)
Meddyginiaeth
Os yw'ch plentyn yn well, ond yn parhau i fod angen meddyginiaeth, gall ddychwelyd i'r ysgol. Llenwch y ffurflen yn y ddolen a’i rhoi i athro/athrawes eich plentyn gyda manylion y dos ac amlder. FFederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn - Medication (llwyncoch.cymru)
Cynllun Gofal
Os yw eich plentyn yn y broses o dderbyn diagnosis o salwch tymor hir neu yn dioddef o anaf tymor hir cysylltwch â’r athro dosbarth i drefnu cynllun gofal.