Skip to content ↓

Pupil Development Grant Expenditure

Mae ysgolion yng Nghymru yn cael cyllid fesul disgybl yn benodol i gefnogi a sicrhau cynnydd tebyg ar gyfer pob disgybl sy’n derbyn Cinio Ysgol am Ddim (PYDd). Mae ysgolion yn cynllunio sut y byddant yn gwario'r arian hwn, ac yna'n dangos y cynnydd y mae pob disgybl PYDd wedi'i wneud yn erbyn y gwariant. Mae'n ofynnol i bob ysgol gyhoeddi'r wybodaeth ariannu ar wefan eu hysgol.

£13,800 yw cyfanswm y dyraniad ar gyfer Ysgol Penrhyn-coch ar gyfer 2023-24. £2,300 yw cyfanswm y dyraniad ar gyfer Ysgol Penllwyn ar gyfer 2022-23. Ar hyn o bryd mae poblogaeth PYDd Ysgol Penrhyn-coch yn 20% o'n disgyblion. Mae gan Ysgol Penllwyn 10% o ddisgyblion PYDd ar yr adeg yma.

Mae’r ysgol yn ymgymryd â’r gweithgareddau canlynol i gefnogi disgyblion sy’n wynebu heriau tlodi ac amddifadedd:

  • Pennaeth yn cefnogi ac yn monitro cynnydd disgyblion sy'n cael PYDd
  • Cynorthwywyr Addysgu yn darparu ymyriadau ar gyfer llythrennedd a rhifedd mewn grwpiau bach neu ar sail 1:1
  • Cynorthwywyr Addysgu yn darparu Cefnogaeth Iechyd a Lles mewn grwpiau bach neu ar sail 1:1.
  • Ymgysylltu â'r gymuned a defnyddio'r cyfleoedd y mae ein cymuned yn eu cynnig i ennyn diddordeb disgyblion a darparu ymdeimlad o berthyn.
  • Cyfleoedd hyfforddi i staff
  • Cyfleoedd cyfoethogi cyn ac ar ôl ysgol trwy weithgareddau allgyrsiol, gwersi nofio a theithiau Ysgol.
  • Cynyddu cyfranogiad disgyblion PYDd ym mob agwedd o fywyd yr ysgol

Archwilir gwariant GDD yr ysgol yn rheolaidd gan y Corff Llywodraethol.

 

Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael PYDd cliciwch ar y ddolen isod:

Prydau Ysgol am Ddim - Cyngor Sir Ceredigion

Mae rhagor o gymorth ar gael i’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim a nodir yma:

Gwisg Ysgol - Cyngor Sir Ceredigion