School Uniform
Mae gan yr ysgol wisg ysgol swyddogol o grys polo coch, crys chwys glas tywyll, trowsus du ac esgidiau du.
Mae gwisg ysgol ag arwyddlun yr ysgol arni ar gael oddi wrth:
Alison Jones Schoolwear | Top Quality Branded Uniform
Fodd bynnag, mae gwisg heb ei frandio gan fanwerthwyr eraill hefyd yn gwbl dderbyniol.
Mae detholiad o wisgoedd ail law ar gael yn yr ysgol. Holwch a oes angen unrhyw help arnoch gyda gwisg ysgol.
Y peth pwysig yw bod eich plentyn yn gyfforddus, wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd, ac yn barod i ddysgu.
Os oes gan eich plentyn hawl i brydau ysgol am ddim, efallai y bydd ganddo hawl i gymorth ariannol gyda chost gwisg ysgol. Cyfeiriwch at yr adran ffurflenni ar wefan y ffederasiwn am ragor o wybodaeth.
LABEWCH BOB EITEM O DDILLAD EICH PLENTYN GYDA'I ENW.
Ar gyfer gweithgareddau corfforol anogir disgyblion i wisgo crys-t, jogyrs a threinyrs.
Sicrhewch fod disgyblion yn dod a chot law yn ddyddiol.